The Moon Birds, MIXALYDIA a Delyth McLean (Sesiynau Haf Soar)

Soar Summer Sessions / Sesiynau Haf Soar

The Moon Birds. Ffurfiwyd yn 2012, mae cryn dipyn o ddilyniad ganddyn nhw yn barod ac yn derbyn adborth ffarfriol iawn gan hyrwyddwyr. Mae’r band yn gweithio’n galed i ddatblygu fel perfformwyr a chyfansoddwyr. Os ydych chi’n hoffi cerddoriaeth roc, blues a ffync, rydych chi’n siwr o garu The Moon Birds.

MIXALYDIA. Daeth y band at eu gilydd yn 2013 trwy eu hoffter o’r un gerddoriaeth. Trwy dderbyn sylw cynyddol arlein ac ar y radio, daeth y band i sylw’r DJ o Radio 1 Huw Stephens ac fe’u gwahoddwyd i gymryd rhan yn y ‘London Welsh Sessions’. Mae’r band newydd rhyddhau eu hail EP ac mae nhw wedi cael eu rhestru ymhlith y 40 band gorau i edrych allan amdanynt yn 2014 gan WalesOnline.

Delyth McLean. Cantores a chyfansoddwraig lleol. Mae ei chryfder fel perfformwraig yn hollol unigryw ac yr un mor effeithiol yn Y Gymraeg a’r Saesneg. Yn dilyn ei EP cyntaf, Gair Y Gwir, mae cryn edrych ymlaen at ei ail EP fydd wedi’i cynhyrchu gan Amy Wadge.

Dyddiad: 27.06.2014
Amser: 7.00yh

Tags: ,