Soar ar y Stryd 2014

Soar on the Street/Soar ar y Stryd 2014

‘Nol ar eich stryd am yr ail flwyddyn, mae’r wyl wedi tyfu i gynnwys y penwythnos gyfan!

Clywir nodau cyntaf y gerddoriaeth ar nos Wener wrth i’r arwr leol Jamie Bevan agor y sioe. Daw ffefrynnau y llynedd, Twmffat, yn ol i gau’r noson.

Fe fydd orymdaith o Soar trwy’r dre i’r New Crown Inn i agor dathliadau y Dydd Sadwrn lle geir stondinau, crefftau, gweithgareddau a pherfformwyr lleol i’ch ddiddanu cyn i Delyth McLean trio cadw’r drefn wrth i Clustiau Cwn a Brython Shag fynd beb ben a’i gilydd mewn gornest gitar go iawn.

Daw’r wyl i ben ar y Dydd Sul gyda wledd o hwyl wrth i’r cogydd Anthony Evans creu barbyciw a difyrwch i’r teulu gyfan.

15/08/14 Dydd Gwener: Jamie Bevan, Twmffat
16/08/14 Dydd Sadwrn: Delyth McLean, Clustiau Cwn, Brython Shag.
17/08/14 Dydd Sul: Barbyciw gyda Anthony Evans

Am mwy o gwybodeaeth neu i gynnal stondyn cysylltwch a: phyl@merthyrtudful.org

Tags: , ,